Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (94)v4 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau
i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. |
Cwestiwn Brys Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl y Fforwm Clinigol Cenedlaethol yn ad-drefnu’r GIG yng Nghymru. EAQ(4)0191(HSS)
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Law yn Llaw at Iechyd – adroddiad cynnydd chwe mis (30 munud) – gohiriwyd o 6 Tachwedd (30 munud) |
4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun “Gwella Ysgolion”, a gyhoeddwyd ar 10 Hydref 2012 (30 munud) |
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith Newydd i Adolygu Ymarfer Plant – Diogelu ac Amddiffyn Plant yn Well (30 munud) (30 munud) |
6. Dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2013-14 (120 mins) NDM5087 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-2014 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty ar 2 Hydref 2012.
Dogfennau Ategol Mae'r Cynigion yngylch Cyllideb Ddrafft 2013-14 ar gael drwy'r linc a ganlyn:
Papur Ymchwil: Cynigion y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2013-14 – Y Gwasanaeth Ymchwil Cyflwynwyd
y
gwelliannau a ganlyn: Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2013-14 fel ei bod: a) yn mynd i’r afael â’r pwysau ariannol eithriadol ar y Gwasanaeth Iechyd o ganlyniad i doriadau mewn termau real o £493 miliwn dros dair blynedd; b) yn diwallu anghenion busnesau yng Nghymru, sy’n hanfodol wrth greu cyflogaeth; c) yn cau’r bwlch cyllido rhwng disgyblion ysgol yng Nghymru a Lloegr; a d) yn sicrhau darpariaeth i liniaru’r codiadau yn y dreth gyngor ar gyfer cartrefi yng Nghymru lle mae’r esgid ariannol yn gwasgu. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth y bwlch mewn gwariant ar addysg rhwng Cymru a Lloegr a fydd yn gwaethygu oherwydd na lwyddwyd i gynyddu’n sylweddol y Grant Amddifadedd Disgyblion yn 2013/14. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw’r Gyllideb Ddrafft yn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg mynediad at driniaethau arloesol yn y GIG.
|
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 14 Tachwedd 2012